Rhestr o Awduron

EDWARDS, SONIA

Sonia EdwardsMae Sonia Edwards yn Brif Lenor yr Eisteddfod Genedlaethol, wedi iddi gipio Medal Ryddiaith 1999 yn Llanbedrgoch, Môn, ac yn awdur toreithiog nifer o gyfrolau o ryddiaith a barddoniaeth.  Mae hi hefyd yn awdur llyfrau plant yn eu harddegau megis ei chyfrol eleni, Uffar o Gosb (Y Lolfa, 2005) sy’n ymdrin â bwlio.

Detholiad o gyhoeddiadau:

Glas ydi’r nefoedd (Gwasg Gwynedd, 1993)
Cysgu ar eithin (Gwasg Gwynedd, 1994)
Gloynnod (Gwasg Gwynedd, 1995)
Llen dros yr haul (Gwasg Gwynedd, 1997)
Rhwng noson wen a phlygain (Gwasg Gwynedd, 1999)
Y Goeden Wen (Gwasg Gwynedd, 2001)
Merch Noeth (Gwasg Gwynedd, 2003)
Elain (Gwasg Gomer, 2003)