Rhestr o Awduron

HUNTER, JERRY

Jerry HunterDarlithydd yn Adran y Gymraeg, Prifysgol Cymru, Bangor. Cyn hynny bu’n ddarlithydd ym Mhrifysgol Caerdydd, ac ym Mhrifysgol Harvard, yn yr Unol Daleithiau. Mae ei ddiddordebau ymchwil yn cynnwys llen gwerin, y traddodiad barddol Cymraeg, canu cynganeddol cyfoes, y Dadeni Dysg, a’r berthynas rhwng hanes a llenyddiaeth. Enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn 2004 am ei gyfrol Llwch Cenhedloedd.


Detholiad o gyhoeddiadau:
Soffestri’r Saeson (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)
Llwch Cenhedloedd: Y Cymry a Rhyfel Cartref America (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)