Rhestr o Awduron
JONES, ANGHARAD
Yn enedigol o Gaerdydd, astudiodd Gymraeg ym Mangor cyn dilyn gyrfa yn y cyfryngau. Mae bellach yn Gomisiynydd Drama a Ffilm yn S4C ond cyn hynny, bu’n awdures llawn amser i deledu (Pengelli, Tylluan Wen), yn ogystal â bardd a llenor achlysurol. Enillodd Goron Eisteddfod Yr Urdd, Yr Wyddgrug 1984 am nofelig a Medal Ryddiaith Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Bu’n cyfrannu i’r Talwrn yn y 90au; hi yw awdur llawer o ganeuon y gantores Sian James.
Cyhoeddiadau:
Datod Gwlwm (1990)
Y Dylluan Wen (1995)


