Rhestr o Awduron

DAVIES, DAMIAN WALFORD

Adran Saesneg, Prifysgol Cymru, Aberystwyth, SY23 3DY

Damian Walford DaviesBardd, beirniad llenyddol a golygydd.  Mae’n Uwch–ddarlithydd yn Adran Saesneg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.  Cyhoeddodd gyfrol o gerddi, Whiteout (Parthian, 2006) ar y cyd â Richard Marggraf Turley, a bydd ei gasgliad, Suit of Lights, yn ymddangos yn 2009 (Seren).  Mae’n arbenigo ar lenyddiaeth cyfnod y Rhamantwyr, barddoniaeth y 19ed a’r 20ed ganrif, a dwy lenyddiaeth Cymru.  Y mae wedi ysgrifennu’n helaeth ar R. S. Thomas, ac ym 1999 ef a gynhyrchodd y recordiad R. S. Thomas Reading the Poems.  Enillodd ei astudiaeth Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s Wobr Foster–Watson yn 2003, ac enillodd ei olygiad, Waldo Williams: Rhyddiaith wobrau Ellis Griffith ac L. W. Davies yn 2002/3.  Ef yw Golygydd Cyffredinol The Oxford Literary History of Wales.  Mae’n un o feirniaid Llyfr y Flwyddyn, 2008.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
(gol., gyda Lynda Pratt), Wales and the Romantic Imagination (Gwasg Prifysgol Cymru, 2007)
Whiteout (gyda Richard Marggraf Turley; Parthian, 2006)
(gol.) Megalith: Eleven Journeys in Search of Stones (Gomer, 2006)
(gol., gyda Jason Walford Davies) Cof ac Arwydd: Ysgrifau Newydd ar Waldo Williams (Barddas, 2006)
(gol., gyda Richard Marggraf Turley), The Monstrous Debt: Modalities of Romantic Influence in Twentieth–Century Literature (Wayne State University Press, 2006)
(gol.) Echoes to the Amen: Essays After R. S. Thomas (Gwasg Prifysgol Cymru, 2003)
Presences that Disturb: Models of Romantic Identity in the Literature and Culture of the 1790s (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002) (gol.) Waldo Williams: Rhyddiaith (Gwasg Prifysgol Cymru, 2001)

Chwilio (11)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z