Rhestr o Awduron
GLYNN, ANNES

Nofelydd, awdur llên meicro, lluniwr ambell linell o gynghanedd! Ganed ym Mrynsiencyn, Ynys Môn ond bu’n byw ym mhentref Rhiwlas ger Bangor ers deg mlynedd ar hugain erbyn hyn. Graddiodd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ers hynny bu’n gweithio fel newyddiadurwr, golygydd cylchgrawn i ferched, ymchwilydd radio a theledu a swyddog cyhoeddusrwydd/marchnata i wahanol sefydliadau. Bu’n gweithio fel cyfieithydd ar ei liwt ei hun ers rhai blynyddoedd bellach.
Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Dilyn Sgwarnog, a enillodd iddi Goron Eisteddfod Môn, yn 2001. Chwarae Mig oedd ei hail nofel a gyhoeddwyd fel rhan o’r gyfres i ddysgwyr, Nofelau Nawr. Yn 2004 enillodd y Fedal Ryddiaith am gyfrol o lên meicro, Symudliw, a gyrhaeddodd restr hir Llyfr y Flwyddyn. Yn 2006 enillodd gystadleuaeth y delyneg yn yr Eisteddfod Genedlaethol a’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth stori fer y cylchgrawn Taliesin am ei stori Dewis, dewis. Eleni cyhoeddwyd ei haddasiadau o dair cyfrol sylweddol J.L.Styan ar hanes y Ddrama. Mae hi bellach yn gweithio ar drydedd nofel.
Cyhoeddiadau:
Dilyn Sgwarnog (Gwasg Gwynedd, 2001)
Chwarae Mig (Gomer, 2002)
Symudliw (Gwasg Gwynedd, 2004)
Y Ddrama Gyfoes, J.L Styan (tair cyfrol), addasiad (Gomer, 2007)
Barn y beirniaid:
"Nofel i’w darllen ar un eisteddiad gan awdur sy’n gwybod i’r dim sut i gynnal a chadw diddordeb, mewn iaith sy’n llifo ac yn blasu fel hen win."
Jane Edwards, yn trafod Dilyn Sgwarnog, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Môn, 2000
"Mae pob vignette bach cynnil yn tywynnu gan arwyddocâd. ….Sibrwd y mae ac nid gweiddi."
Rhan o feirniadaeth John Rowlands ar Symudliw, Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Eisteddfod Genedlaethol Cymru Casnewydd a’r Cylch, 2004.
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen/trafod ei gwaith ei hun
2. Gweithdai ysgrifennu i oedolion


