Rhestr o Awduron

ROBERTS, PENRI

7 Stryd Uchaf, Llanidloes, Powys. SY18 6BY
Ffôn: 01686 413480

Bardd a Cherddor. Yn enedigol o Lanrhaeadr ym Mochnant ond yn byw yn awr yn nhref Llanidloes ym Mhowys. Cafodd ei addysg yn Ysgol Gynradd Llanrhaeadr, Ysgol Uwchradd Llanfyllin a Choleg y Drindod, Caerfyrddin. Enillydd y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001. Cyd–awdur a chynhyrchydd sioeau Cwmni Theatr maldwyn gyda Derec Williams a Linda Gittins: Y Mab Darogan, Y Cylch, Y Llew a’r Ddraig, Pum Diwrnod o Ryddid, Myfi Yw, Heledd ac Ann, yn ogystal â chynhyrchiadau Cwmni Theatr meirion: Mela – gyda Derec Williams a Linda Gittins ac Er Mwyn Yfory gyda Derec Williams a Robat Arwyn. Pennaeth Ysgol Gynradd Haften, Y Drenewydd 1984 - 2004 ac Ysgol Dafydd Llwyd y Drenewydd 2001 - 2004.

Pynciau sy’n gymwys ar gyfer Awduron ar Daith:
Ar gael o fis Medi 2004 i gynnal:
Gweithdai barddoniaeth i blant
Noson Cerdd a Chân i oedolion - darllen ei gerddi a chanu rhai o’i gyfansoddiadau

Mae Penri Roberts hefyd yn gallu cynnal Noson yn olrhain hanes Cwmni Theatr Maldwyn i bobl ifainc ac oedolion. Trwy sgwrs a thrwy ddangos enghreifftiau fideo; trafod y busnes a’r dechneg o gyfansoddi sioe gerdd. Sylwer nad yw’r testun hwn yn gymwys ar gyfer nawdd cynllun Awduron ar Daith.