Rhestr o Awduron
DAFIS, RHYS
Bardd. Yn fab fferm o Lansannan ym mro Hiraethog, cafodd ei godi mewn ardal lle roedd traddodiad cerdd dafod a cherdd dant yn gryf a byw. Ar ôl graddio yn Lerpwl yn 1979, bu’n gweithio yn y Rhyl am gyfnod cyn symud i Ddyffryn Teifi i ddatblygu a rhedeg cymdeithas dai. Yn 1988, symudodd i gyffiniau Caerdydd, gan weithio i Tai Cymru. Yn 1994 ymunodd â’r Bwrdd Iaith, lle bu’n gyfrifol tan yn ddiweddar am oruchwylio gweithrediad Deddf yr Iaith Gymraeg yn y sectorau cyhoeddus a gwirfoddol. Ar ddechrau 2004, sefydlodd ymgynghoriaeth cynllunio ieithyddol i gynghori cyrff a busnesau ynglyn â goblygiadau dwyieithrwydd mewn polisi, gwasanaeth a gweinyddiaeth. Mae’n briod, â thri o ’blant’.
Bu’n cyfansoddi cerddi yn achlysurol ers dyddiau coleg, a chyhoeddwyd ei waith mewn nifer o gyfrolau a chylchgronnau dros y blynyddoedd. Yn aelod o bwyllgor Barddas, cynhaliodd ysgol farddol yng nghyffiniau Caerdydd dan nawdd y Brifysgol ers symud yno. Cymrodd ran yn rheolaidd mewn Talwrn ac Ymryson a Stomp!



