Rhestr o Awduron
JONES, JOHN GRUFFYDD
Bardd a llenor. Yn enedigol o Nanhoron, Llyn. Addysgwyd yn Ysgol Botwnnog cyn symud i Fanceinon a chymhwyso fel gwyddonydd diwydiannol gyda chwmni ICI lle bu am bron i 17 mlynedd. Yno y dechreoudd lenydda, cyn ymsefydlu yn Abergele. Enillodd sawl gwobr yn yr Eisteddfod Genedlaethol, yn cynnwys y Fedal Ryddiaith (1981), y Fedal Ddrama (1986) a’r Goron (1987).
Detholiad o gyhoeddiadau
Cysgodion ar y Pared (Cyfrol y Fedal Ryddiaith, 1981)
Straeon Canol Oed (Ty ar y Graig, 1985)
Perthyn i’r Teulu (nofel fer: Ty ar y Graig, 1987)
Darlun o Arlunydd (gyda Robert Owen, 1995)



