Rhestr o Awduron
GRUFFUDD, ROBAT
Nofelydd, cyhoeddwr. Ganed yn y Rhondda a’i fagu yn Abertawe. Graddiodd mewn Athroniaeth a Seicoleg ym Mhrifysgol Cymru, Bangor. Yno, yn 1965 y sefydlodd (gyda Penri Jones) y cylchgrawn Lol. Yn 1966 sefydlodd wasg Y Lolfa yn Nhalybont, Ceredigion. Mae’n dal i weithio i’r wasg lle mae dau o’i feibion nawr yn gyfarwyddwyr gweithredol. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’i nofel, Y Llosgi; a bu Crac Cymraeg ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru. Ei nofel ddiweddaraf yw Carnifal (2004).
Detholiad o Gyhoeddiadau
Trên y Chwyldro (Y Lolfa, 1978), y cyntaf yng Nghyfres y Beirdd Answyddogol
Y Llosgi (Y Lolfa, 1986)
Crac Cymraeg (Y Lolfa, 1996)


