Rhestr o Awduron

AB OWAIN, ROBIN LLWYD

Ffôn cartref: 01824 705219 
Ffôn gwaith: 07967 814334 

Robin Llwyd ab OwainBardd. Fe’i ganwyd yng Ngwynedd a bu’n brifathro am 12 mlynedd yn Ysgol Llangwm. Trodd i fyd y Rhyngrwyd yn 2000 gan sefydlu Cyfrifiaduron Sycharth. Ei safle ’Rebel ar y We’ oedd y llyfr Cymraeg cyntaf i’w roi ar y we, a hynny yn 1996. Nid yw wedi’i gyhoeddi ar bapur hyd yma; gweler yma. Enillodd Gadair Eisteddfod yr Urdd yn 1979 am awdl i Lywelyn yr Ail a Chadair yr Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Bro Delyn yn 1991 am ei awdl ’Merch yr Amserau’.  Sgwenodd Robin hefyd lawer o ganeuon poblogaidd megis Brenin y Ser (Bryn Terfel), Pedair Oed (Rhys Meirion), Gwin Beaujolais (Trisgell) a Cana o Dy Galon (Steffan Hughes). 

Pynciau sy’n gymwys dan gynllun Awduron ar Daith: 
1. Darllen, trafod a chanu ei waith ei hun 
2. Barddoniaeth i blant cynradd ac uwchradd: darllen a gweithdai.