Rhestr o Awduron
DAVIES, SIONED
Ysgolhaig. Ganwyd a magwyd hi yn Sir Drefaldwyn. Y mae bellach yn Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd. Ei phrif ddiddordeb ymchwil yw traddodiad rhyddiaith yr Oesoedd Canol, ac yn arbennig chwedlau’r Mabinogion. Mae ei chyhoeddiadau’n cynnwys cyfrolau megis Crefft y Cyfarwydd a Pedeir Keinc y Mabinogi (yn y gyfres ’Llên y Llenor’). Bydd ei chyfieithiad newydd o holl chwedlau’r Mabinogion (ar gyfer Gwasg Prifysgol Rhydychen) yn ymddangos ar 1 Mawrth 2007. Datblygiad o’i diddordeb mewn perfformio a chyfathrebu yn yr Oesoedd Canol yw’r ymchwil cyfredol ar bregethu dramatig, a’r prosiect ‘Perfformio o’r Pulpud: Pregethu Dramatig y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg a’r Ugeinfed Ganrif’.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Pedeir Keinc y Mabinogi (yn y gyfres ’Llên y Llenor’: Gwasg Prifysgol Cymru 1990)
The Four Branches of the Mabinogi (Gwasg Gomer 1993)
Crefft y Cyfarwydd (Gwasg Prifysgol Cymru 1996)
(gol., gyda Nerys Ann Jones) The Horse in Welsh Culture – Medieval Welsh Perspectives (Gwasg Prifysgol Cymru 1997)
(gol., gyda Peter Thomas) Canhwyll Marchogyon – Cyd-destunoli Peredur (Gwasg Prifysgol Cymru 2000)


