Rhestr o Awduron

EBENEZER, LYN

Lyn EbenezerAwdur a darlledwr. Yn enedigol o Bontrhydfendigaid, mae wedi byw yn Aberystwyth ers 1969. Bu’n ohebydd ar y Cambrian News a’r Cymro am ymron 20ain mlynedd a’i wneud yn aelod oes o Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr ym 1997. Cyhoeddodd ei hunangofiant, Cae Marged, ym 1991 ac ef oedd cyd–sgriptiwr y ffilm Noson yr Heliwr/ A Mind to Kill a ymddangosodd ym 1992. Cafodd y ffilm ei ddangos mewn hanner cant o wledydd. Yn ddiweddarach addasodd y ffilm i nofel Gymraeg, a cyhoeddwyd dilyniant i’r nofel hon eleni, ynghyd a^ dwy gyfrol arall.

Am 12 mlynedd bu’n un o gyflwynwyr y gyfres deledu Hel Straeon ac ers 1999 bu’n un o gyflwynwyr rheolaidd y rhaglen gylchgrawn ddyddiol Pnawn Da ar S4C Digidol. Bu’n ddarlledwr rheolaidd ar radio a theledu, yn newyddiadurwr annibynnol ac yn aelod o dîm cyfieithwyr Prifysgol Cymru, er ei fod wedi ymddeol bellach. Mae’n briod a chanddo fab.

Detholiad o Gyhoeddiadau
Cae Marged (Gwasg Gwynedd, 1990)
Merch Fach Ddrwg (Y Lolfa, 1998)
Dim Heddwch?  (Y Lolfa, 2000)
Cofion Cynnes (Gwasg Carreg Gwalch, 2002)
Cerddi Ceredigion (gol.) (Gwasg Gomer, 2003)
Yr Heliwr: Si So Jac y Do (Y Lolfa, 2005)
Adar Brith (Dref Wen, 2005)
Gair, Sain a Llun (Gwasg Gwynedd, 2005)
Lladd Amser (Gwasg Gwynedd, 2006)