Rhestr o Awduron

EMYR, LUNED

Luned EmyrDramodydd a sgriptwraig.  Fe’i magwyd ym Mangor a’i haddysgu yno yn Ysgol Tryfan.  Astudiodd Theatr, Ffilm a Theledu a Chymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth.  Yn 2002 enillodd ysgoloriaeth gan S4C, bwrsari gan Sgript Cymru a chefnogaeth ariannol gan Ffilmiau Eryri i fynychu’r Coleg Ffilm Ewropeaidd yn Nenmarc.  Enillodd y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru yn 1999, 2001 a 2003, ac yn 2002 daeth yn ail yng nghystadleuaeth y Fedal Lenyddiaeth.  Ers hynny, bu’n ysgrifennu ar gyfer gwahanol gyfryngau, gan gynnwys dwy ffilm fer, sef Caru a Cameo (Opus), wedi’u dangos ar y teledu.  Mae hi hefyd yn ysgrifennu ar gyfer y radio, a darlledwyd tair o’i dramâu ar gyfer y cyfrwng hwnnw: Cysgu dan y sêr, Ystafell Dywyll a Castell Pawb ei Dŷ.  Perfformiwyd ei gwaith ar lwyfan yn ogystal, a gwelir ei gwaith llenyddol yn gyson ar ddalennau Tu Chwith, Taliesin a Barn.

Luned yw Llywydd cyntaf Fforwm Celfyddydau Gwynedd. Mae hi hefyd yn aelod o fwrdd Cymdeithas Theatr Cymru ac yn aelod o Bwyllgor Aelodau Cymraeg yr Academi.

Ar hyn o bryd, mae hi’n ymddiddori fwyfwy yn y Cyfryngau Newydd ac mae’n cydredeg cyrsiau adrodd storïau digidol – ffurf sy’n galluogi pobl i adrodd eu storïau drwy gyfrwng lluniau a lleisiau ar y We.

Luned yw cyflwynydd rhaglen gelfyddydau S4C/Cwmni Da, Y Sioe Gelf.