Rhestr o Awduron

EVANS, MEIRION

Gweinidog a bardd. Yn enedigol o Felindre, Abertawe. Addysgwyd ef yn Ysgol Ramadeg Pontardawe a Choleg yr Annibynwyr, Bangor. Bu’n weinidog yn Llechryd yng Ngheredigion, Penygroes, Dyffryn Nantlle a Phorth Tywyn, Sir Gaerfyrddin. Yn 1978 enillodd gadair am ei gerdd, ’Credaf’, a’r flwyddyn ganlynol yng Nghaernarfon enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol am ddilyniant o gerddi serch. Ef oedd Archdderwydd Cymru, 1999–2001.

Detholiad o gyhoeddiadau
Yr Hen Gapel, Llechryd (Ty John Penri, 1959)
Y Corn Olew (Barddas, 1986)
Straeon Ffas a Ffridd (Gomer, 1996)
Straeon Ffas a Ffridd, Yr Ail Gyfrol (Gomer 1998)
Rhofio a Rhwyfo (Gomer 1998)

Chwilio (10)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z