Rhestr o Awduron
HUWS, DAFYDD
Nofelydd a sgriptiwr. Ganed ym Mangor ym 1949 ac fe’i magwyd yn Llanberis. Bu’n athro Cymraeg yn Ysgol Illutud Sant, Caerdydd am ddeunaw mlynedd cyn troi’n awdur amser llawn ym 1989. Ef yw awdur Dyddiadur Dyn Dwad a’r ddwy gyfrol sy’n dilyn. Bu’n ysgrifennu tipyn ar gyfer y teledu yn ddiweddar. Mae’n byw yng Ngwaelod y Garth ac mae’n wr priod a chanddo ddwy ferch.
Detholiad o Gyhoeddiadau
Dyddiadur Dyn Dwad (dan enw Goronwy Jones: Gwasg Carreg Gwalch 1978)
Un peth di priodi peth arall di byw (Y Lolfa 1990)
Walia Wigli (Y Lolfa, 2004)
Chwarter Call (Y Lolfa, 2005)


