Rhestr o Awduron
IORWERTH, DYLAN
Newyddiadurwr, bardd a llenor. Fe’i ganed yn Nolgellau a’i fagu yn Waunfawr, yn ymyl Caernarfon. Graddiodd mewn Saesneg a Hanes o Brifysgol Cymru Aberystwyth yn 1978. Gweithiodd wedyn i’r Wrexham Leader ac yn 1982 bu’n un o sylfaenwyr y papur newydd, Sulyn. Yna, treuliodd dair blynedd yn Llundain fel gohebydd seneddol BBC Cymru. Roedd yn un o’r tîm a sefydlodd y cylchgrawn, Golwg, yn 1988 ac ef oedd ei olygydd cyntaf; y mae bellach yn Gyfarwyddwr Olygydd ar y cwmni, Golwg Cyf., sy’n cyhoeddi nifer o deitlau. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Llanelli yn 2000. Enillodd hefyd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau eleni gyda’r gyfrol Darnau (Gwasg Gwynedd, 2005).
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Darnau (Gwasg Gwynedd 2005)
Llyfrau a olygwyd:
Gohebydd Tramor (Gwasg Prifysgol Cymru 1993)
A Week in Europe (Gwasg Prifysgol Cymru 1995)
Cyfrol wreiddiol:



