Rhestr o Awduron

JARVIS, BRANWEN

Beirniad ac ysgolhaig.   Magwyd hi yn Aberdâr ac Ystradgynlais.   Graddiodd
ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth, ac ennill graddau M.A., a Ph.D yn
ddiweddarach.   Treuliodd gyfnod yn dysgu Gymraeg yn ail iaith cyn cael ei
phenodi’n aelod o staff yr Adran Gymraeg yng Ngholeg y Brfysgol, Caerdydd.
Symudodd i Fangor yn 1978 ac mae hi bellach yn dal y Gadair Iaith a
Llenyddiaeth Gymraeg yno.   Cyhoeddodd astudiaethau beirniadol mewn nifer
helaeth o feysydd, o gyfnod y Dadeni Dysg hyd at yr ugeinfed ganrif.   Bu
galw cyson am ei gwasanaeth fel adolygydd a beirniad eisteddfodol a bu
hefyd yn aelod o nifer o gyrff cyhoeddus.


Detholiad o Gyhoeddiadau
Trafod Cerddi (gol.), (Gwasg Taf, 1985)
Goronwy Owen (Gwasg Prifysgol Cymru, 1986)
Llinynnau (Gwasg Taf, 1999)
A Guide to Welsh Literature (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2000)