Rhestr o Awduron
JONES, ALED GWYN
Bardd. Fe’i ganed yng Nghastellnewydd Emlyn a’i addysgu yn Ysgol Ramadeg Llandysul, Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth a Choleg Coffa yr Annibynwyr, Abertawe. Bu’n weinidog gyda’r Annibynwyr rhwng 1966 a 1982 ac yna’n ohebydd gyda BBC Cymru, cyn troi’n gyfieithydd yn 2000. Enillodd Wobr Goffa Llwyd o’r Bryn yn Eisteddfod Genedlaethol y Bala, 1967, a Choron Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995.


