Rhestr o Awduron
JONES, GERAINT V
Nofelydd. Ganwyd a magwyd ef ym Mlaenau Ffestiniog. Ar ôl graddio mewn Cymraeg a Saesneg yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor, a threulio cyfnod byr fel pennaeth yr Adran Saesneg yn Ysgol Bryn Alyn, Gwersyllt, Wrecsam, dychwelodd yn 1963 i’w hen ysgol, sef Ysgol y Moelwyn yn y Blaenau, i ddysgu Cymraeg a Saesneg ac i ddod wedyn yn bennaeth Adran y Gymraeg yno. Deunydd darllen i blant a phobl ifanc oedd ei weithiau cynnar ond yn 1990, yn Eisteddfod Genedlaethol Cwm Rhymni, enillodd Wobr Goffa Daniel Owen gyda’r nofel, Yn y Gwaed. Mae’r rhan fwyaf o’i nofelau i oedolion wedi ymddangos ar ôl iddo ymddeol o’i swydd fel athro a daeth dwy o’r rheini, sef Semtecs (Bro Ogwr 1998) a Cur y Nos (Llanelli 2000), eto i’r brig yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Daniel Owen. Bu hefyd yn cyd–olygu’r gyfrol Yn Fyw Mewn Geiriau (Y Ganolfan Astudiaethau Iaith 1995), sef detholiad o gerddi addas ar gyfer y cwrs TGAU. Ef oedd un o enillwyr gwobr Gymru Greadigol Cyngor Celfyddydau Cymru eleni.
Detholiad o Gyhoeddiadau
I blant
Antur yr Alpau ac Antur yr Allt (Gwasg Gee, 1981)
I’r arddegau
Alwen (Christopher Davies, 1974)
Storiau’r Dychymyg Du (Gomer, 1986)
Melina (Gomer, 1987)
I oedolion
Yn y Gwaed (Gomer, 1990)
Semtecs (Carreg Gwalch, 1998)
Asasin (Carreg Gwalch, 1999)
Ar Lechan Lân (Carreg Gwalch, 1999)
Omega (Carreg Gwalch, 2000)
Cur y Nos (Carreg Gwalch, 2000)
Zen (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)
Ei Uffern ei Hun (Gomer, 2005)
Yn Saesneg:
The Gates of Hell (Gwasg Carreg Gwalch, 2003)



