Rhestr o Awduron

JONES, LLION

Bardd a beirniad llenyddol. Brodor o Abergele ond bellach yn byw ym Mhenrhosgarnedd. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth cyn mynd rhagddo i ennill doethuriaeth am astudiaeth o waith T.H. Parry–Williams. Ar hyn o bryd, mae’n ddarlithydd yn Adran Cyfathrebu a’r Cyfryngau, Prifysgol Cymru Bangor. Prifardd cadeiriol Eisteddfod Genedlaethol Llanelli 2000 a sylfaenydd a golygydd y cylchgrawn barddoniaeth ar–lein ’Annedd y Cynganeddwyr’ (www.cynghanedd.com).