Rhestr o Awduron

PHILLIPS, BETHAN

Awdur a hanesydd. Fe’i ganed yn Llanbedr Pont Steffan, Ceredigion. Addysgwyd yn yr ysgolion lleol a Choleg Prifysgol Cymru, Abersytwyth. Graddiodd mewn Saesneg a Lladin. Bu’n athrawes yn Llundain, Rhymni ac Aberaeron. Cyfarwyddodd ffilmiau fideo ar gyfer Uned y Cyfryngau, Cyngor Sir Dyfed a gwnaeth ffilmiau ar amryw o ffigurau llên amlwg, megis Islwyn Ffowc Ellis, Waldo Williams a Williams Pantycelyn, yn ogystal â ffilmiau’n ymwneud â gwahanol agweddau ar fywyd y sir. Enillodd wobr y Council for British Archaeology (dan nawdd S4C) am y ffilm Pathways to the Past: The Celts yn 1994. Y mae hefyd yn awdur amryw o sgriptiau ar gyfer y radio a’r teledu ac erthyglau ac adolygiadau niferus mewn papurau a chyfnodolion. Gosodwyd Rhwng Dau Fyd, Y Swagman o Geredigion, ei llyfr am hanes Joseph Jennkins, ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor y Celfyddydau.

Detholiad o Gyhoeddiadau a Darllediadau

Radio
Y Gwr o Drecefel
Dydd y Fall (Hedd Wyn)
Y Dyn Hysbys.

Teledu (S4C)
’Almanac’: Y Sialens, Sara Abel Morgan, Dewin Pantcoy.
’Dihirod Dyfed’ (Cyfres 1): Y Rhwyg, Arsenig a Channwyll Gorff, Ffrwd o Waed, Wil Cefncoch, Dolaucothi (Yr Addewid), John Cloff.
’Dihirod Dyfed’ (Cyfres 2): Ronnie Cadno, Yr Alltudion, Y Cythraul Cwrw, Trychineb Llwyntywyll, Tristwch yr Unig Fab, Pechod Mary Prout.

Cyhoeddiadau:
Peterwell, The History of a Mansion and its Infamous Squire. (Gomer 1983; ail arg. 1998)
Dihirod Dyfed. (Hughes a’i Fab 1991)
Ffynonellau (Gwasg Aeron 1991)
Rhwng Dau Fyd, Y Swagman o Geredigion  (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion 1998)
Pity the Swagman (Cymdeithas Lyfrau Ceredigion. 2002)
Almanac (Hughes a’i Fab 1984)
The History of the Lampeter Agricultural Show. 1987