Rhestr o Awduron
PRICE, ANGHARAD
Gwyndre, Ffordd y Gogledd, Caernarfon, LL55 1BE
Ebost: a.price@bangor.ac.uk

Magwyd ym Methel, Arfon ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Bethel ac Ysgol Brynrefail. Graddiodd mewn ieithoedd modern yng Ngholeg Iesu Rhydychen a threuliodd flwyddyn yn Fienna dan nawdd Ysgoloriaeth Goffa Saunders Lewis. Enillodd ddoethuriaeth am ei hastudiaeth o ryddiaith Robin Llywelyn yn 1998. Ar ôl cyfnod yn darlithio yn Abertawe a Chaerdydd, mae bellach yn uwch-ddarlithydd yn y Gymraeg yng Ngholeg Prifysgol Bangor a chyhoeddodd gyfrolau ac erthyglau ar lenyddiaeth Gymraeg o gyfnod y Dadeni a’r cyfnod cyfoes. Mae’n byw yng Nghaernarfon.
Cyhoeddodd nofel fer o’r enw Tania’r Tacsi yn 1999 ac enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 am y gyfrol, O! Tyn y Gorchudd a enwyd yn Llyfr y Flwyddyn 2003. Mae’r nofel ar gael ar ffurf CD yng nghyfres Llyfrau Llafar, gyda Betsan Llwyd yn ei darllen.

Cyhoeddiadau creadigol:
Tania’r Tacsi (Gomer, 1999)
O! Tyn y Gorchudd (Gomer, 2002)
Mynydd Tynybraich yn Y Mynydd Hwn (Gomer, 2005) ac On This Mountain (Gomer, 2008)
Cyhoeddiadau Academaidd:
Robin Llywelyn (Gwasg Pantycelyn, 1999)
Rhwng Gwyn a Du: Rhyddiaith Gymraeg y 1990au (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
Chwileniwm: Technoleg a Llenyddiaeth (gol.) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2002)
Gwrthddiwygwyr Cymreig yr Eidal (Gwasg Pantycelyn, 2005)


