Rhestr o Awduron

EDWARDS, HUW MEIRION

Huw Meirion EdwardsAddysgwyd Huw Meirion Edwards yn Ysgol Uwchradd David Hughes ym Mhorthaethwy ac Ysgol Gyfun Llanhari. Graddiodd mewn Cymraeg a Ffrangeg ym Mangor a derbyniodd ei ddoethuriaeth yn 1993 o Goleg yr Iesu, Rhydychen am astudiaeth o waith Dafydd ap Gwilym a’i gyfoeswyr yn ei gyd-destun Ewropeaidd. Erbyn hyn mae wedi ymgartrefu ym mhentref Llandre ger Aberystwyth, ac mae’n uwch-ddarlithydd yn Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth lle mae’n dysgu’r cwrs Ysgrifennu Creadigol ac amryw o gyrsiau iaith a llenyddiaeth. Mae wedi cyhoeddi nifer o lyfrau ac erthyglau. Enillodd y Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghasnewydd yn 2004 am ei gasgliad ‘Tir Neb’. Barddoniaeth yr Oesoedd Canol (yn arbennig Dafydd ap Gwilym a’r traddodiad dychan), y canu rhydd cynnar, a barddoniaeth ddiweddar yw ei ddiddordebau academaidd pennaf. Ef yw golygydd cyfres Llên y Llenor ac mae’n aelod o fwrdd golygyddol Y Traethodydd. Mae’n aelod o dîm Talwrn Y C?ps ac o dîm Ymryson Ceredigion.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Ddinas Ddihenydd? Delweddau o Gaerdydd yn ein Llenyddiaeth, Darlith Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Caerdydd a’r Cylch, 2008 (Aberystwyth, 2008).
Y Canu Dychan yng Nghymru yn yr Oesoedd Canol, yn Cof Cenedl XXIII, gol. Geraint H. Jenkins (Llandysul, 2008), 1-33.
“Yn newydd ei gywydd gynt”: confensiwn a dyfeisgarwch yng nghywyddau Dafydd ap Gwilym’, Taliesin, 131 (Haf 2007), 44-62.
Canu Serch Hywel ab Owain Gwynedd, Llên Cymru, 30 (2007), 1-16.
Golygiadau newydd o dros 30 o gerddi Dafydd ap Gwilym ar wefan dafydd ap gwilym.net (2007).
Gwaith Madog Dwygraig, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr (Aberystwyth, 2006).
A Multitude of Voices: The Free-Metre Poetry of Iolo Morganwg, yn A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg, gol. Geraint H. Jenkins (Caerdydd, 2005), 95-121.
Barddas: Y chwarter canrif cyntaf, yn Alan: Casgliad o Gerddi ac Ysgrifau ar Alan Llwyd, gyda llyfryddiaeth lawn o’i waith gan Huw Walters, gol. Huw Meirion Edwards (Cyhoeddiadau Barddas, 2003), 63-90.
Gwaith Prydydd Breuan a Cherddi Dychan Eraill o Lyfr Coch Hergest, Cyfres Beirdd yr Uchelwyr (Aberystwyth, 2000).
Dafydd ap Gwilym: Influences and Analogues (Rhydychen, 1996)

Chwilio (10)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z