Rhestr o Awduron

WILLIAMS, ALED JONES

Aled Jones WilliamsDramodydd, llenor, bardd. Ganed yn Llanwnda, ger Caernarfon. Addysgwyd yn Ysgol Gynradd Bontnewydd; Ysgol Dyffryn Nantlle, Pen–y–Groes; Coleg y Brifysgol, Bangor; a Choleg Diwynyddol Sant Mihangel, Llandaf. Ordeiniwyd yn offeiriad yn yr Eglwys yng Nghymru 1980. Enillodd wobrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn 1994, 1995 a 1996 am ei ddramâu, Dyn Llnau Bogs, Pêl Goch a Cnawd. Lysh yw Drama Gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004. Daeth ei lyfr Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy Hun ar restr fer Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru 2002. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol Tyddewi 2002 am y bryddest, Awelon.
 

Detholiad o weithiau

Cyhoeddiadau:
Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno Dy Hun (Pantycelyn, 2001)
Oerfel Gaeaf Duw: rhyw lun ar hunangofiant crefyddol (Pantycelyn, 2002)
Wal/ Wall (Cymdeithas Ddrama Cymru (2002)
Be’ O’dd Enw Ci Tintin? (Theatr Bara Caws 2003)
Lysh (Theatr Bara Caws 2004)
Ychydig Is Na’r Angylion (Gwasg y Bwthyn, 2006)

Dramâu a berfformiwyd:
Cnawd (Dalier Sylw, 1997)
Pêl Goch (Cwmni Theatr Gwynedd, 1998)
Wal (Cwmni Theatr Gwynedd, 1999)
Sundance (Theatr Bara Caws, 1999)
Fel ’Stafell (Cwmni Bracan, 1999)
Tiwlips (Cwmni Theatr Gwynedd , 2001)
Pryd Fuo’ Kathleen Ferrier Farw? (BBC Cymru, 2002)
Tr-ra Teresa (Cwmni Theatr Cymru 2002)
Be’ O’dd Enw Ci Tintin? (Theatr Bara Caws 2003)
Lysh (Theatr Bara Caws, 2004)