Rhestr o Awduron

STEVENS, CATRIN

Hanesydd ac awdur. Yn enedigol o Lan–non, Ceredigion, astudiodd Hanes Cymru a Chymraeg ym Mangor cyn gwneud MA ar Gerddi’r Tai Crefydd yn yr Oesoedd Canol. Treuliodd gyfnod yn ymchwilio i arferion gwerin Cymru yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan ac ysgrifennodd nifer o lyfrau ac erthyglau ar arferion caru a marw a chladdu’r Cymry. Bu’n byw ym Maenclochog, Penfro lle bu’n astudio’r chwareli llechi ac yna yng Nghasllwchwr, ger Abertawe. Bu’n ddarlithydd Hanes  a Hanes Cymru yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin am 14 mlynedd ac yn bennaeth ar yr ysgol honno am gyfnod. Mae wedi bod yn Gadeirydd Cenedlaethol Mudiad Ysgolion Meithrin ac yn Llywydd Cenedlaethol Merched y Wawr.  Ar hyn o bryd mae’n gweithio ar ei liwt ei hun yn ymchwilio, ysgrifennu a darlithio. Enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 1972 a Gwobr Tir N’an Og gyda Robert Morris am y gyfrol ffeithiol orau i blant – rhan o brosiect Hanes Cymru Gwasg Prifysgol Rhydychen.

Detholiad o Gyhoeddiadau
Arferion Caru ( Gomer 1976)
Iorwerth C. Peate (cyfres Writers of Wales, Gwasg Prifysgol Cymru 1986)
Cnebrwn, Cligieth ac Angladd  (Carreg Gwalch 1987))
Welsh Courting Customs (Gomer 1993)
Meithrin - hanes Mudiad Ysgolion Meithrin 1971-1996 ( Gomer 1996)