Rhestr o Awduron

MORGAN, ELIN LLWYD

Elin Llwyd MorganFe’i ganed ym mhentref Cefn Bryn Brain, cafodd ei magu yn Sir Fôn a bu’n byw hefyd yn Aberystwyth a Chaernarfon. Bellach mae’n byw yn Nyffryn Ceiriog efo’i chymar Peris a’u mab Joel. Yn ei swydd bob dydd cyfieithu y mae Elin, ond yn ogystal bydd hi hefyd yn barddoni, yn adolygu ac yn gohebu. Rhwng y Nefoedd a Las Vegas (Y Lolfa) yw ei nofel gyntaf.

Mae ei nofel ddiweddaraf, Mae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa, 2007)  ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008.  Cliciwch yma i ddarllen mwy.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Duwieslebog (Y Lolfa, 1993)
Tafarnau Cymru (Y Lolfa)
The Seven Wonders of Wales (Y Lolfa, 1993)
Rhwng y Nefoedd a Las Vegas (Y Lolfa, 2004)
Mae Llygaid gan y Lleuad (Y Lolfa, 2007)

Mae Llygaid gan y LleuadNofel fywiog, ddarllenadwy am brofiadau myfyrwraig nwydus. Cwestiynir y prif gymeriad gan yr Heddlu am ei chyn-gariad sy’n genedlaetholwr amlwg, ond mae’n cael ei dal rhwng sawl meddwl a sawl dyn, cyn iddi orfod ceisio dianc am byth.  Lleolir y nofel yn Aberystwyth ac yn Nyffryn Ceiriog.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi