Rhestr o Awduron

JENKINS, J GERAINT

Brodor o ardal Llangrannog, Ceredigion yw J. Geraint Jenkins, M.A., D.Sc.Econ. Mae wedi ysgrifennu bron hanner cant o lyfrau yn Saesneg ac yn Gymraeg ar hanes a thraddodiadau Cymru, ac agweddau o dreftadaeth Prydain, yn cynnwys astudiaethau manwl o’r diwydiant pysgota a’r diwydiant gwla^n. Bu’n bennaeth Amgueddfa Diwydiant a Mo^r Cymru ac Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan.

Ers cymryd ymddeoliad cynnar mae wedi dychwelyd at ei brif ddiddordeb, sef y mo^r. Morwyr fu rhyw bum cenhedlaeth o’i deulu.

Ar waha^n i waith academaidd, mae Dr Jenkins wedi cymryd rhan flaenllaw ym mywyd cyhoeddus Cymru gan weithredu fel cadeirydd nifer o sefydliadau  cenedlaethol. Bu yn Uchel–Siryf Dyfed yn 1994–5 ac yn Gadeirydd Cyngor Sir Ceredigion yn 2002-03. Mae wedi gwasanaethu fel Cadeirydd, Ysgrifennydd a Golygydd nifer o sefydliadau rhyng-genedlaethol.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Traddodiad y Mo^r (Gwasg Carreg Gwalch, 2004)