Rhestr o Awduron
GEORGE, MARI
Golygydd sgriptiau ac awdur yn Adran Ddrama BBC Cymru. Mae’n gweithio’n bennaf ar sgriptiau Pobol y Cwm. Daw o Ben–y–bont ar Ogwr. Fe’i haddysgwyd yn Ysgol Gyfun Llanhari a Choleg Prifysgol Cymru Abertawe. Derbyniodd radd MA ar waith Wil Ifan. Ysgrifennodd am ei phlentyndod a’i haddysg yn
Yn Gymysg Oll I Gyd gol. Hywel Teifi Edwards.(Gomer, 2004) .
Y Nos yn Dal yn Fy Ngwallt (Gomer, 2004) yw ei chasgliad cyntaf o gerddi.