Rhestr o Awduron

LEWIS, CARYL

Caryl LewisAwdur ifanc o Ddihewyd, ger Aberaeron. Graddiodd o Brifysgol Durham cyn dychwelyd i Brifysgol Aberystwyth i ennill gradd uwch mewn ysgrifennu. Mae’n ysgrifennu ar gyfer pobl ifainc ac oedolion. Enillodd Iawn Boi? wobr Tir na n–Og 2004 ac enillodd Martha, Jac a Sianco wobr Llyfr y Flwyddyn 2005. Bu ei nofel, Y Gemydd (Y Lolfa, 2007) ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2008 a chyrhaeddodd ei nofel, Naw Mis (Y Lolfa, 2009), Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2010.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Dal Hi! (Y Lolfa, 2003)
Cyfres Pen Dafad: Iawn Boi? (Y Lolfa, 2003)
Tric y Pic a Mics (Llyfrau Lloerig) (Gwasg Gwynedd, 2004)
Martha, Jac a Sianco (Y Lolfa, 2004) Nawr ar gael ar ffurf Cryno Ddisg – prynwch gopi (cyswllt i Gwales)
Cyfres Pen Dafad: Sgwbid? Aur (Y Lolfa, 2005)
Cyfres Dramâu’r Drain: Yr Ysbryd (Y Lolfa, 2006)
Cyfres Dramâu’r Drain: Arkies (Y Lolfa, 2006)
Y Gemydd (Y Lolfa, 2007)
Cyfres Stori Sydyn: Jackie Jones (Y Lolfa, 2008)
Plu (Y Lolfa, 2008)
Naw Mis (Y Lolfa, 2009)

Y GemyddNofel sy’n cyfleu unigrwydd dirdynnol gyda phortreadau grymus o gymeriadau brith sy’n byw ar gyrion cymdeithas.  Dilynir argyfwng Mair, sy’n crafu byw wrth drin a gwerthu gemau a chlirio tai – nes y daw un gem i drawsnewid ei bywyd yn llwyr.

Cliciwch ar y clawr i brynu copi

 

Naw Mis (Y Lolfa, 2009)

Naw MisMae'n cymryd naw mis i greu bywyd newydd ond cymer naw mis hefyd i berson farw … Nofel am ddiflaniad merch yw Naw Mis, ac effaith hynny ar ei theulu a'i chymuned. Dyma nawfed nofel yr awdures a enillodd wobr Llyfr y Flwyddyn gyda'i chyfrol Martha, Jac a Sianco.

Chwilio (11)

A B C D E F G H I J K L M N O P
Q
R S T
U
V W
X
Y
Z