Rhestr o Awduron

EVANS, RICHARD R

Brodor o ardal Tabor ger Dolgellau. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol y Brithdir, y Coleg Normal, Bangor a Phrifysgol Cymru Aberystwyth. Bu’n athro a phrifathro yn siroedd Meirionnydd a Chlwyd. Cyhoeddwyd ei gyfrol Mynd i’r Lleuad ym 1973, enillodd dilyniant o gerddi o’i eiddo Gadair Eisteddfod Dolgellau, a dyfarnwyd iddo radd M. Phil. gan Brifysgol Cymru am draethawd yn trafod "Agweddau ar Nofelau Marion Eames". Mae’n byw ym Mhenryn–coch ger Aberystwyth.