Rhestr o Awduron

JONES, R ARWEL (ROCET)

Is-y-Coed, 10 Rhes Gogerddan, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 2EX.

Rocet Arwel JonesAwdur a bardd. Ganed yn Rhos-y-Bol, Ynys Môn a’i addysgu yng Nghlwb Ffermwyr Ifanc Rhos-y-bol, Ysgol Uwchradd Amlwch a Phrifysgol Cymru Aberystwyth.  Mae wedi cyhoeddi dau lyfr taith doniol am ei brofiadau yn Africa a Kenya, cyfrol o gyfweliadau gydag Emyr Humphreys a chyfrol o hanes llafar ar droad y mileniwm.  Mae’n lais cyfarwydd ar Radio Cymru ac ar S4C ac wedi cyhoeddi cerddi ac ysgrifau yn Taliesin, Tu Chwith, Barn, Golwg, Y Traethodydd ac ar y we.  Ef yw Cadeirydd Adran Gymraeg Pwyllgor Aelodau yr Academi.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Diolch i Nhrwyn (Lolfa, 2002)
Jambo Caribŵ: Taith i Borth Uffern (Lolfa, 2004)
Dal Pen Rheswm: Cyfweliadau Gydag Emyr Humphreys (Gwasg Prifysgol Cymru, 1999)
Hyd Ein Hoes: Y Ganrif Ar Lafar (Tempus Publishing, 1999)
Mynd I’r Ffair, llyfr o ganeuon i blant ar y cyd â Bethan Bryn a J.R. Jones (Curiad, 2002)
Golygydd Cyffredinol y gyfres o flodeugerddi - Cerddi Fan Hyn

Pynciau a gynygir sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen/trafod ei waith ei hun
2. Trafod hanes llafar a llên meicro
3. Trafod cerddi gwahanol siroedd ar sail Cerddi Fan Hyn
4. Gweithdai ysgrifennu creadigol ym maes sgwennu taith barddoni

Oedran y gynulleidfa: unrhyw oed