Rhestr o Awduron

GRIFFITHS, T GWYNFOR

Ganed Gwynfor Griffith yng Nghil–ffriw, ac fe’i haddysgwyd yn Ysgol Sir y Bechgyn, Castell–nedd, Coleg y Frenhines Rhydychen, a glofeydd Cefn Coed a Blaendulais. Mae’n gyn-gymrawd o Goleg y Drindod, Dulyn, ac o Goleg y Groes Sanctaidd, Rhydychen, ac yn Athro Emeritws ym Mhrifysgol Manceinion. Ei brif ddiddordebau yw’r Eidal a’i llenyddiaeth, ond o bryd i’w gilydd bydd ei wraig a’i dair merch yn ei berswadio i fentro i feysydd gwahanol.

Detholiad o gyhoeddiadau:
Dau ben y daith, Gwasg Gomer, 1995