Rhestr o Awduron
LEWIS, MARED
Awdur a dramodydd. Ganed ym Malltraeth Ynys Mon. Graddiodd yn y Saesneg ym Mhrifysgol Aberystwyth ac yna treuliodd gyfnod byr yn Nghaliffornia. Mae hi bellach yn byw yn ôl ar y fam ynys gyda’i gwr a’i dau fab. Enillodd sawl cadair a choron mewn Eisteddfodau ysgol, rhyng-golegol, ac Eisteddfodau lleol a daeth yn ail am y Fedal yn yr Urdd!
Wedi gweithio fel athrawes Saesneg ac ym myd addysg a busnes, mae hi bellach yn gweithio ar ei liwt ei hun. Mae hi wedi cyfrannu nifer o sgriptiau i gyfresi fel Pobol y Cwm a Rownd a Rownd ac i’r gyfres ddrama radio Rhydeglwys. Darlledwyd pedair drama wreiddiol ganddi ar Radio Cymru.
Ar hyn o bryd mae hi’n gweithio ar ei hail nofel i oedolion dan adain Gwasg Gwynedd, gyda’r bwriad o gyhoeddi eleni. Mae’n gobeithio mentro troi ei llaw at ysgrifennu i’r theatr rhywbryd yn y dyfodol.
Detholiad o gyhoeddiadau:
Cyfres o erthyglau ar fywyd LA i’r cylchgrawn Mela (1992)
Stori Mr Ben yn y casgliad Sbectol Gam (Gwasg y Lolfa, 1996)
Stori Drws nesa’i afallon yn y casgliad Tocyn Tramor ( Y Lolfa, 1997)
Stori Next door to Avalon yn y casgliad A white afternoon (Parthian Books) 1998 (Darlledwyd hon ar Radio 4 maes o law)
Esgid Wag – Nofel oedolion (Gwasg y Dref Wen, 2004)
Stori Y Trip yn y casgliad Yn nes at baradwys (Gwasg Carreg Gwalch, 2005)
Stori Colli tir yn Taliesin (Haf 2005)
Ffair Sborion- Stori i blant (Gwasg y Dref Wen, 2007)



