Rhestr o Awduron

APOLLONI, DAFYDD

Ar ochr ei dad, mae Dafydd Apolloni yn Eidalwr, neu’n hytrach yn Rhufeiniwr. Ar ochr ei fam, ac o ran magwraeth, Cymro ydyw, wedi’i fagu yn Llanrwst, yn w^yr i awdur llyfrau Gari Tryfan, y Parchedig Idwal Jones.

Yn Roma – Hen Wlad fy Nhadau (Gwasg Carreg Gwalch, 2004) mae Dafydd Apolloni yn cyfleu bwrlwm y profiad dinesig cyfandirol. Cafodd ysfa i dreulio amser yn Roma, yn cryfhau’i berthynas a^’i deulu, yn dod i ddeall y rhan Eidalaidd o ’i fod, ac yn mynd i’r afael a^g ymadawiad ei dad a^ dinas yr haul a’r gwin am Lanrwst yn Nyffryn Conwy.