Rhestr o Awduron
DAVIES, GARETH ALBAN
Bardd ac ysgolhaig. Fe’i ganed yn Nhon Pentre, y Rhondda. Bu’n gysylltiedig a^’r grw^p a adwaenid fel Cylch Cadwgan. Derbyniodd ei addysg yn Ysgol Ramadeg y Porth, a Choleg y Frenhines, Rhydychen, lle graddiodd gydag anrhydedd mewn Sbaeneg a Ffrangeg. Fe’i penodwyd i Gadair Adran Sbaeneg Prifysgol Leeds yn 1975. Cyhoeddodd sawl cyfrol o farddoniaeth, ynghyd ag erthyglau ar hanes a beirniadaeth lenyddol. Gyda’i wraig Caryl cyfieithodd i’r Gymraeg La Symphonie Pastorale gan Gide o dan y teitl Y Deillion (1965).
Detholiad o gyhoeddiadau:
Baled Lewsyn a^’r Mo^r (1964)
Dyddiadur America (1967)
Tan Tro Nesaf (1976)
Y Llenor yn Ewrop (gol.) (1976)
Galar y Culfor, (Barddas, 1991)



