Rhestr o Awduron

ARCH, CHARLES

Yn ei gyfrol hunangofiannol Byw Dan y Bwa, (Gwasg Gwynedd, 2005) mae Charles Arch yn adrodd hanes chwarter canrif cyntaf ei fywyd, tra bu’n "byw dan y bwa" ar fferm ei deulu yng nghysgod abaty Ystrad Fflur. Mae’n adnabyddus am ei weithgarwch gyda Mudiad y Ffermwyr Ifanc, a threialon cwn defaid ledled y byd. Ef hefyd, ers chwarter canrif, yw prif sylwebydd y Sioe Frenhinol.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Byw Dan y Bwa (Gwasg Gwynedd, 2005)
O’r Tir i’r Tŵr (Gwasg Gwynedd, 2007)