Rhestr o Awduron
HALLAM, GWION
Ffôn: 07814 116451
Ebost: gwion.hallam@cwmnida.tv / gwion.hallam@homecall.co.uk
Bardd a nofelydd i blant / arddegau, dramodydd a sgriptiwr. Ganed yn Abertawe, addysgwyd yng Ngholeg Prifysgol Cymru Aberystwyth. Mae wedi sgriptio i’r teledu a’r radio gan ysgrifennu ffilm fer i S4C, Problem Mr Llŷr. Cyd–awdur y ddrama lwyfan Deinameit a oedd yn olrhain hanes streic hir gweithwyr Friction Dynamex, Caernarfon. Enillodd ei nofel gyntaf Creadyn wobr Tir na Nog 2006.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Brenin y Tonnau (Gomer 2002)
Caneuon y Coridorau (Carreg Gwalch 2005)
Creadyn (Gomer 2005)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei waith ei hun
2. Gweithdai barddoni ac ysgrifennu creadigol
3. Syrjeri sgriptio, dadansoddi, perfformio a gwella ar sgript
Oedran y Gynulleidfa: Plant cynradd ac uwchradd / oedolion.



