Rhestr o Awduron
MEDI, MENNA
Groeslon, Caernarfon, Gwynedd LL54 7TT
Ffôn: 01286 830871
Ffôn Poced: 07775 662761
Ebost: menna@medi44.fsnet.co.uk
Gwefan Cardiau Cyfarchion Cyfres WAhanol: www.cyfreswahanol.co.uk
Bardd gwlad yn ôl ei chyfaddefiad ei hun. Enillodd Ysgoloriaeth Emyr Feddyg i’r awdur mwyaf addawol yn Eisteddfod Genedlaethol Dinbych 2001 am bennod gyntaf nofel. Datblygodd y syniad yn nofel feiddgar o’r enw Hogan Horni. Enillodd y gyfrol wobr Aur Pur yn Ebrill 2008 am y llyfr mwyaf poblogaidd i gael ei fenthyg o lyfrgelloedd Sir Ddinbych. Mae cyfrol arall ar y gweill. Mae Menna’n enillydd cenedlaethol ar gasgliad o gerddi addas i gardiau cyfarchion. Datblygodd y gystadleuaeth yn fusnes cardiau llewyrchus. Gwerthir yn genedlaethol o dan yr enw Cyfres WAhanol. Mae’n enillydd naw cadair eisteddfodol ac yn hoffi cefnogi’r eisteddfodau bach. Mae’n stompwraig awgrymog, ac yn aelod o gwmni drama, yn ohebydd achlysurol i’r Cymro, a chyn–golofnydd i’r Dinesydd. Ymddangosodd ei gwaith ym Mela, Pais, Llên y
Llannau, Byd y Cymro (Lolfa) a Pethe Penllyn. Bu’n gweithio i’r BBC am 15 mlynedd yn cyflwyno a chynhyrchu cyfresi amrywiol gan gynnwys dilyn cyrsiau llenyddol Tŷ Newydd. Bellach mae’n Reolwr Marchnata Cwmni Recordiau Sain.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Hogan Horni (Gomer, 2007)
Pynciau a gynigir sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen/trafod fy ngwaith fy hun/Trafod Cerddi’r Cardiau - mewn Cymdeithasau Llenyddol/Merched y Wawr/Clybiau Ffermwyr Ifanc
2. Gweithdai barddoniaeth mewn ysgolion cynradd (gwers rydd, mydr ac odl a chyflwyniad i’r cynganeddion.)
Bodlon teithio o Amlwch i Aberdâr.


