Rhestr o Awduron
JAMES, CHRISTINE
Bardd, darlithydd a golygydd. Enillodd Goron Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau 2005. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd ac yn gweithio fel darlithydd yn Adran Gymraeg Prifysgol Abertawe. Graddiodd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth a llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol sydd wedi cael ei sylw pennaf o ran ymchwil bersonol, yn enwedig Cyfraith Hywel ac agweddau ar lenyddiaeth Morgannwg. Mae hi hefyd yn olygydd profiadol gan olygu y cylchgawn llenyddol Taliesin a hefyd Cerddi Gwenallt: Y Casgliad Cyflawn (2001).


