Rhestr o Awduron
JONES, TUDUR DYLAN
Prifardd ac athro. Enillodd Dylan y Gadair am yr ail waith yn Eisteddfod Genedlaethol Eryri a’r Cyffiniau yn 2005. Cafodd ei Gadair gyntaf yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Colwyn yn 1995. Ganed ef yng Nghaerfyrddin ond symudodd y teulu i Fangor lle’r aeth i ysgol ac yna i’r Brifysgol. Mae Dylan eisioes yn aelod i dim Talwrn y Beirdd, Y Taeogion, gyda Ceri Wyn Jones ac Emyr Davies. Bu’n Fardd Plant Cymru yn 2004–5. Dylan oedd enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Sir Fflint a’r Cyffiniau 2007.
Cyhoeddiadau:
Adenydd (Barddas, 2001)
Rhywun yn Rhywle: Cerddi Cyntaf i Blant (Gomer, 2005)



