Rhestr o Awduron

DAFYDD, CATRIN

90, Heol y Prior, Caerfyrddin, Sir Gaerfyrddin, SA31 1NU
Ffôn: (01267) 232 982 / 07817 370 559
Gwefan: www.catrindafydd.com
Ebost: catrindafydd@gmail.com

Catrin DafyddAwdures, dramodydd, bardd a pherfformwraig. Graddiodd Catrin mewn Cymraeg o Brifysgol Cymru Aberystwyth. Enillodd Fedal Lenyddiaeth yr Urdd yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd 2005. Mae hi bellach yn gweithio fel awdur ar ei liwt ei hun.
Cyhoeddodd ei nofel gyntaf – Pili Pala gyda gwasg Gomer yn 2006 a hi yw Uwch–Olygydd y cylchgrawn Tu Chwith. Cafodd ei phenodi yn fardd preswyl yr Academi yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe, 2006.
Mae Catrin yn gweithio ar nifer o brosiectau llenyddol, celfyddydol a gwleidyddol gan gynnwys teithio Cymru fel storïwraig gan gynnal gweithdai mewn ysgolion. Hi hefyd sy’n perfformio cymeriad Evita Morgan o Batagonia ac mae’n ymweld â gwahanol fudiadau a chymdeithasau yng Nghymru drwy’r flwyddyn. Mae hi’n un o dîm o lenorion sy’n teithio o amgylch Cymru yn perfformio nosweithiau barddonol - Evita a’i Beirdd ac mae’n aelod o Ysgol Farddol Caerfyrddin dan ofal Mererid Hopwood a Tudur Dylan Jones. Llynedd, bu hi, Eurig Salisbury, Aneirin Karadog, Iwan Rhys ac Iwan Rhys yn gwneud taith o amgylch Cymru i hyrwyddo eu cyfrol o farddoniaeth Crap ar Farddoni.
Darlledwyd ei drama radio gyntaf, Sua’r Gwynt ar Radio Cymru yn Rhagfyr, 2004 a darlledwyd ei drama Plymio yn 2006

Detholiad o gyhoeddiadau a phrosiectau
Golygydd Dim Lol – Cylchgrawn Dychanol rhwng 2003 a 2005
Golygydd Tu Chwith – Rhifyn ‘Dur’. (Haf, 2005)
Detholiad o’i cherddi wedi eu cyhoeddi yn Cerddi CaerdyddCherddi’r Cymoedd (Gomer 2004 a 2005)
Pili Pala – Nofel – (Gomer 2006)
Crap ar Farddoni – Cyfrol o farddoniaeth – (Gwasg Carreg Gwalch, 2006)
Monologau Evita Morgan o Batagonia
Cyfrannydd cyson i Taliesin, Barn a chylchgrawn Barddas
Random Deaths and Custard - Nofel - (Gomer 2007)
Y Dyn Handi - Nofel - (Y Lolfa, 2008)

Pynciau mae hi’n gymwys i’w trin dan gynllun Awduron ar Daith:
1. Perfformio cymeriadau amrywiol
2. Perfformio a barddoniaeth
3. Darllen, trafod a pherfformio ei gwaith
4. Gweithdai ysgrifennu creadigol (barddoniaeth, rhyddiaith, drama a pherfformio)
5. Cyd-weithio ag artistiaid cerddorol, celfyddydol a llenyddol
6. Cyfuno cerddoriaeth a barddoniaeth

Oedran y Gynulleidfa: Blynyddoedd Ysgol Gynradd, Ysgol Uwchradd, Myfyrwyr Addysg Bellach a Phrifysgolion, Oedolion Ifanc ac Oedolion. Mudiadau megis Merched y Wawr a Ffermwyr Ifainc