Rhestr o Awduron
BAINES, MENNA
200, Fordd Penrhos, Bangor, Gwynedd, LL57 2DJ
Email: menna@fforddpenrhos.plus.com
Awdur a golygydd. Ganed Menna ym Mangor a’i magu yn Nyffryn Banw, Sir Drefaldwyn, a Dyffryn Nantlle, Sir Gaernarfon. Mynychodd Goleg Prifysgol Gogledd Cymru Bangor lle graddiodd yn y Gymraeg yn 1986. Treuliodd ddwy flynedd bellach ym Mangor yn ymchwilio i fywyd a gwaith Caradog Prichard a derbyniodd radd MPhil yn 1992. Yna aeth i faes newyddiaduraeth gan weithio fel is–olygydd celfyddydol Golwg am dair blynedd cyn dod yn olygydd Barn yn 1991. Bu yn y swydd honno am bum mlynedd cyn dechrau gweithio ar ei liwt ei hun yn 1996, yn ysgrifennu, golygu a sgriptio. Mae Menna, sydd bellach yn o^l ym Mangor, hefyd yn un o olygyddion Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, sydd i ymddangos yn 2007.
Mae ei chyfrol Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard ar Restr Hir Llyfr y Flwyddyn 2006. Cliciwch yma i ddarllen mwy.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Pum Awdur Cyfoes: Cyflwyniad i fyfyrwyr ail iaith (Camfa, 1997)
Yng Ngolau’r Lleuad: Ffaith a Dychymyg yng Ngwaith Caradog Prichard (Gwasg Gomer, 2005)


