Rhestr o Awduron
LASARUS, GWEN
Daw Gwen Lasarus yn wreiddiol o Lanfairpwll. Ei dewis cyntaf o yrfa oedd actio, a bu’n gweithio’n gyson ar lwyfannau Cymru ac ar gyfresi teledu S4C. Bu ysgrifennu yn rhan o’i bywyd o oedran cynnar, a dros y blynyddoedd llwyddodd i ysgrifennu sawl darn ar gyfer y llwyfan, ambell sgript deledu a cherdd neu ddwy. Bu’n teithio â sioe o’i cherddi Pan ga’i Funud gyda Llio Silyn yn ystod y tair blynedd diwethaf. Yn haf 2001 cyhoeddwyd ei nofel gyntaf i bobl ifainc, Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa), ac yn 2004 cyhoeddwyd dilyniant iddi, Snogs a Sgribls Hogan Flêr (Y Lolfa). Mae Gwen yn gweithio’n rhan amser fel Hyrwyddwraig Llenyddiaeth Gwynedd – cynllun a noddir ar y cyd gan yr Academi a Chyngor Gwynedd. Oherwydd hyn ni all ysgolion na chymdeithasau a leolir yng Ngwynedd geisio am nawdd Awduron ar Daith yr Academi ar gyfer ymweliad gan Gwen. Fodd bynnag, mae croeso i gymdeithasau tu allan i Wynedd
geisio am nawdd.


