Rhestr o Awduron

ROSSER, SIWAN M.

Awdur.  Mynychodd Ysgol Maes Garmon, yr Wyddgrug cyn ennill Gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gymraeg yn Aberystwyth.  Yno hefyd y bu iddi gwblhau M.Phil gan gymryd ’Golwg ar ganu rhydd Jonathan Hughes, Llangollen’.  Aeth ati hefyd i gwblhau PhD, ’Delweddau o ferched ym maledi’r ddeunawfed ganrif – Twm o’r Nant, Elis y Cowper, Huw Jones Llangwm, a Jonathan Hughes, Llangollen’.  Mae hi nawr yn ddarlithydd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd ac yn gyfrifol am yr M.A mewn Astudiaethau Gwerin.  Bu Siwan hefyd yn Newfoundland yn gwneud ymchwil ar le^n gwerin.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Ferch ym Myd y Faled (Gwasg Prifysgol Cymru, 2005)