Rhestr o Awduron

DAVIES, GWENNO MAIR

Enillydd Coron Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru 2005. Yn gyn–ddisgybl yn Ysgol y Creuddyn, astudiodd Gwenno Gymraeg a Drama ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth. Mae hi bellach yn dysgu Drama ac Astudiaethau’r Cyfryngau yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera.  Mae Gwenno wedi ennill y gadair ddwywaith yn Eisteddfodau Sirol Mudiad y Ffermwyr Ifanc, ac ennill tair medal ddrama yn Eisteddfod yr Ysgol.  Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth Coron yr Urdd yn 2004 ac yn ail am y Fedal Ddrama yn 1998.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Drama^u’r Drain: Su Ma’i Waaa! (Y Lolfa, 2006)