Rhestr o Awduron

OWENS, WYN

Bardd–arlunydd.  Ganed Wyn Owens ym 1956. Derbyniodd ei addysg gynnar yn ysgol leol Mynachlog–ddu ac Ysgol Uwchradd y Preseli yng Nghrymych. Wedi ymadael a^’r ysgol, bu’n fyfyriwr yng Ngholeg Celf Dyfed, Caerfyrddin, Coleg Celf a Dylunio Epsom, Surrey, a’r Academi Frenhinol, Llundain. Dychwelodd i’w gynefin yn fuan ar o^l iddo gwblhau ei addysg, a dechreuodd baentio tirweddau ei batshyn glas ei hun. Ym 1986 dechreuodd farddoni, wedi i’w athro Cymraeg yn Ysgol y Preseli, J. Dennis Jones, osod y sylfeini drwy ddysgu rheolau’r gynghanedd iddo, ac ar o^l mynychu Dosbarth Cerdd Dafod Dic Jones yng Nghrymych.

Detholiad o Gyhoeddiadau:
Y Patshyn Glas (Cyhoeddiadau Barddas, 2005)