Rhestr o Awduron
ROBERTS, EIGRA LEWIS
Lluest, DOLWYDDELAN LL25 0RZ
Ffôn: (01690) 750239
Mae Eigra Lewis Roberts yn un o brif lenorion Cymru. Fe’i ganed ym Mlaenau Ffestiniog a’i haddysgu yng Ngholeg y Brifysgol, Bangor. Mae’n byw bellach yn Nolwyddelan ac yn briod gyda thri o blant a deuddeg o wyrion ac wyresau. Cyhoeddwyd ei nofel gyntaf, Brynhyfryd, pan oedd hi ond ugain oed ac ers hynny bu’n awdur toreth o gyfrolau, gan gynnwys nofelau, straeon byrion, llyfrau i blant, cofiannau a drama. Enillodd y Fedal Ryddiaith yn Eisteddfod Genedlaethol 1965 a 1968 a Thlws y Ddrama yn 1974. Hi oedd awdures y gyfres deledu ’Minafon’. Enillodd Goron Eisteddfod Abertawe 2006.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Mis o Fehefin
Seren Wib
Cymer a Fynnot
Llygad am Lygad (Gomer)
Rhannu’r Tw (2003)
Streic (2004)
Oni Bai (Gomer, 2005)
Return Ticket (Gomer, 2006)
Pynciau sy’n gymwys gan y cynllun Awduron ar Daith:
1. Darllen a thrafod ei gwaith ei hun
2. Byd geiriau
3. Ysgrifennu ar gyfer y teledu
4. Perthynas llyfr a’r cyfryngau
5. Byd Minafon
Oedran y gynulleidfa: Oedolion



