Rhestr o Awduron
JONES, GWEN PRITCHARD
Nofelydd. Yn enedigol o Dal–y–sarn yn Nyffryn Nantlle, bu hi’n athrawes gynradd yng Ngwynedd, yn cadw stondin mewn marchnad, yn rhedeg cwmni arlwyo ac yn gweithio yn y BBC. Mae hi nawr yn byw ym Mhant-glas. Enillodd Wobr Goffa Daniel Owen yn Eisteddfod Genedlaethol Abertawe a’r Cylch 2006 gyda’i nofel Dygwyl Eneidiau (Gwasg Gwynedd, 2006).


