Rhestr o Awduron
STEPHENS, MEIC
10 Heol Don, Whitchurch, Caerdydd CF14 2AU
Ffo^n: 029 2062 3359
Ebost: hwncomanco@hotmail.co.uk
Ganed yn Nhrefforest, ger Pontypridd yn 1938. Fe’i addysgwyd ym Mhifysgol Cymru, Aberystwyth ac aeth ef ymlaen wedyn i ddysgu Ffrangeg yn Ysgol Ramadeg Glynebwy rhwng 1962 a 1966. Bu’n ohebydd gyda’r Western Mail rhwng 1966 a 1967 cyn ymuno a^ Chyngor Celfyddydau Cymru fel Cyfarwyddwr Llenyddiaeth ym 1967 hyd 1990. Bu’n athro ymweld ym Mhrifysgol Brigham, Utah rhwng 1991 1992, yn newyddiadurwr a chynghorydd celf rhwng 1992 a 1994 ac yn ddarlithydd Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Glamorgan am 6 mlynedd yn 1994 cyn dod yn Athro ar Welsh Writing in English 2000 hyd 2003 (nawr yn Emeritws). Ef yw sylfaenydd Poetry Wales 1965 lle bu’n Olygydd hyd 1973. Safodd fel ymgeisydd Plaid Cymru ym Merthyr Tydfil yn Etholiad Gyffredinol 1966 a cafodd ei urddo a’i Wisg Wen yng Ngorsedd y Beirdd 1976. Un o Gymrodyr yr Academi a’i hunig Aelod am Oes. MA Anrhydeddus a DLitt cyhoeddi, Prifysgol Cymru, 2000. Llywydd Anrhydeddig Cangen Tonyrefail o Brifysgol y Third Age, 2006. Mae hefyd yn creu ysgrifau coffa i Gymry enwog yn The Independant. Cymraeg yw iaith ei gartref, yr hyn a ddysgodd yn oedolyn.
Detholiad o Gyhoeddiadau:
Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (gol., Gwasg Prifysgol Cymru, 1986, arg. newydd, 1997)



