Rhestr o Awduron
JONES, CERI WYN
Manylion cyswllt: ceri.catrin@virgin.net neu ceri@gomer.co.uk

Crwt o Aberteifi yw’r Prifardd Ceri Wyn Jones.
Enillodd Gadair yr Eisteddfod Genedlaethol ym 1997 am ei awdl Gwaddol, ac mae’n llais a wyneb cyfarwydd ym myd y talwrn a’r ymryson a thu hwnt. Mae’n teithio ar hyd a lled y wlad yn cynnal gweithdai i blant ac athrawon, yn darlithio a darlledu, ac yn perfformio ei waith. Bellach hefyd, mae ei gerddi yn cael eu hastudio ar gyrsiau Cymraeg TGAU, Lefel ‘A’ a Gradd.
Mae’n aelod o dîm Y Taeogion ar raglen radio Y Talwrn ac o dîm Sir Gâr yn Ymryson y Beirdd yr Eisteddfod Genedlaethol bob blwyddyn. Mae hefyd yn un o golofnwyr sefydlog Barddas a’r Cardigan and Tivy-side Advertiser.
Gyda’i gyd-Daeogion, Tudur Dylan Jones ac Emyr Davies, mae’n cynnal nosweithiau barddol poblogaidd ledled y wlad; nosweithiau sy’n cyfuno llond bol o chwerthin gydag ambell ysbaid mwy dwys.
Ef oedd Bardd Plant Cymru 2003-04 ac yn sgîl y gweithgarwch hwn, cyhoeddodd gyfrol o gerddi i blant, sef Dwli o Ddifri a gyrhaeddodd Rhestr Fer Gwobr Tir Na-n Og.
Yn 2007, ef oedd awdur geiriau cân fuddugol Cân i Gymru, sef Blwyddyn Mâs, a ganwyd ac a gyfansoddwyd gan Einir Dafydd.
Cyrhaeddodd ei gyfol gyntaf o gerddi, Dauwynebog (Gomer, 2007), Restr Fer Llyfr y Flwyddyn 2008.
Yn 2008, dyfarnwyd iddo Ysgoloriaeth yr Academi i ddechrau gwaith ar ei ail gyfrol o farddoniaeth.
Fe’i magwyd ym Mhen y Bryn (gogledd Sir Benfro) a chafodd ei addysg gynradd yn ysgolion Cilgerran ac Aberteifi. O Ysgol Uwchradd Aberteifi, fe aeth wedyn i’r Brifysgol yn Aberystwyth lle enillodd radd mewn Saesneg. Wedi dros ddegawd fel Pennaeth Adran Saesneg Ysgol Dyffryn Teifi, ers 2002 mae’n Olygydd Llyfrau Saesneg gyda Gwasg Gomer yn Llandysul.
Detholiad o gyhoeddiadau
I oedolion: Dauwynebog (Gomer 2007)
I blant: Dwli o Ddifri (Gomer 2004) Nawr ’te, Blant (Gomer 2008)
Sylwadau Beirniadol:
Am Dauwynebog:
“Ag yntau’n cael ei ystyried yn un o feirdd gorau ei genhedlaeth, anodd credu ar ryw ystyr mai hon yw cyfrol gyntaf Ceri Wyn Jones. Nodweddir y casgliad hwn gan feistrolaeth gref ar y gynghanedd, defnydd trawiadol ac annisgwyl o iaith a’r gallu greddfol hwnnw, a feddir gan fardd o’r iawn ryw, i gwmpasu’r personol a’r oesol.”
Beriniaid Llyfr y Flwyddyn 2008
“Dyma waith gwir feistr, ac ni allaf gymeradwyo’r gyfrol ddigon.” ~
Alan Llwyd (Barddas)
“Bu aros hir am y gyfrol hon, ac ni chawsom ein siomi. Mae’n wirioneddol wych.”
Idris Reynolds (Y Traethodydd)
“…bardd o arwyddocâd â’i lais sylfaenol ei hunan… gwreiddioldeb athrylithgar y cynganeddu... y mater profiadus o gyfoes a gyflwynir gydag arddull ffraeth a nodweddir gan ddeuoliaeth awen a modernrwydd mynegiant gyda defnydd beiddgar o’r iaith lafar...”
Donald Evans (Barddas)
“Bydd pawb sy’n cymryd y diddordeb lleiaf ym myd cerdd dafod yn gwybod yn iawn eisoes mai Ceri Wyn yw un o feistri cyfoes y grefft honno. Doedd dim angen iddo gyhoeddi cyfrol i brofi hynny i neb; ond dyna a wnaeth, a thrwy hynny gadarnhau’r farn honno.”
Dafydd John Pritchard (Gwales)
“Dawn Ceri Wyn, fel pob gwir fardd, yw cyfleu gweledigaeth neu wirionedd mewn iaith a dull sy’n ein hysgwyd... Roedd hi’n werth aros degawd.”
Rhys Iorwerth (Taliesin)
“Traddodiad y canu caeth cymdeithasol ar ei gryfaf.”
Grahame Davies (Llais Llên)
Am yr awdl ‘Gwaddol’:
“Mae ei linellau’n pefrio gan newydd-deb ymadrodd a gellir dweud hefyd ei fod yn llwyddo i ddad-farddoni arddull yr awdl eisteddfodol draddodiadol, gan agor ffenestri a chreu newydd-deb ymadrodd cyffrous. Anadlodd fywyd newydd i hen gyfrwng. Nid yw’n ormod dweud iddo agor llwybrau newydd a phosibiliadau disglair i’r awdl... Dyma waith pencerdd yn wir.”
James Nicholas (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion a’r Cyffiniau)
“Meistr ar gerdd dafod.”
Ieuan Wyn (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion a’r Cyffiniau)
“Bron na ellid dweud mai’r gynghanedd, yn hytrach na’r Gymraeg, yw ei iaith gyntaf gan mor reddfol yw ei feistrolaeth ohoni… Gall y sawl a fynn, ’rwy’n siwr, dwrio o dan y geiriau a chanfod yno ‘storws o ystyron’. Ond mae’n well gen i aros yn ôl, i synhwyro’r darlun yn ei holl dristwch tywyll gan ryfeddu at y ddawn a’i creodd.”
Idris Reynolds (Cyfansoddiadau a Beirniadaethau Meirion a’r Cyffiniau)
“awdl anghyffredin o arbennig: cân dreiddgar ysgytiol”
Donald Evans (Awdlau’r Brifwyl 1950-99)
"Dyma un o’r awdlau gorau ers degawdau."
Meirion Macintyre Huws (Golwg)
"Cyflawnodd gampwaith."
VaughanHughes (Barn)
Pynciau sy’n gymwys dan y cynllun Awduron ar Daith:
1 Darllen/trafod ei waith ei hun
2 Cynnal gweithdai ysgrifennu barddoniaeth i blant ac oedolion
3 Cynnal gweithdai hyfforddiant i athrawon
4 Darlithio ar farddoniaeth a llenyddiaeth
5 Cynnal noswethiau barddoniaeth boblogaidd ar y cyd â Tudur Dylan Jones ac Emyr Davies
Oedran y Gynulleidfa: O blant bwyddyn 5 i fyny ac i oedolion o bob oedran!



